Taflenni gwybodaeth gyfreithiol
Mae Galw Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn darparu cyfres o daflenni di-dâl sy’n amlinellu eich hawliau cyfreithiol mewn meysydd allweddol o’r gyfraith.
Ysgrifennir yr holl daflenni hyn gan arbenigwyr annibynnol. Medrwch eu darllen neu eu lawrlwytho yn defnyddio’r cysylltau islaw.
Gallwch hefyd archebu copïau mewn Saesneg, Braille a Sain.
Mae cyfieithiadau o’r taflenni Hawliau Cyfartal a Gwahaniaethu Hiliol ar gael mewn Albaneg, Arabeg, Bengali, Tsieineg, Farsi, Ffraneg, Gujarati, Portiwgaeg, Somali, Sbaeneg a Thyrceg, diolch i un o’n partneriaid, Multikulti.
Beth oedd eich barn ynglŷn â’n taflenni? Oeddynt o gymorth i chi i ddelio gyda phroblem? Oeddynt yn hawdd i’w darllen ac yn ddiddorol? Neu onid oeddynt fawr o gymorth o gwbl? Croesawn eich sylwadau drwy ein ffurflen adborth neu e-bost
webadmin@communitylegaladvice.org.uk
8 Ceisio Lloches - Currently being updated available April 08.
11 Delio gyda’r Heddlu - This leaflet is being reviewed and will be available again shortly.
12 Trafodion Dim-ennill, Dim-ffi - Currently being updated available April 08.
13 Problemau gyda nwyddau a gwasanaethau
15 Cyfle Cyfartal
20 Addysg
25 Feteraniaid
26 Trais Domestig, Camdriniaeth a Harasiaeth
27 Cyd-fyw a’ch Hawliau os Gwahanwch
28 Delio gyda Materion Rhywun Arall - Leaflet discontinued. Please see http://www.publicguardian.gov.uk/ for information on this topic.
29 Trafodion Gofal - Currently being updated available April 08.
30 Anghydfod Cymdogion a Chymunedol
Mae’r taflenni yn y gyfres hon yn rhoi amlinelliad i chi o’ch hawliau cyfreithiol. Nid ydynt yn ganllaw cyflawn i’r gyfraith ac ni fwriedir iddynt fod yn ganllaw am sut y bydd y gyfraith yn berthnasol i chi neu i unrhyw sefyllfa benodol.
Caiff y taflenni eu diweddaru’n rheolaidd ond gall y gyfraith fod wedi newid ers iddynt gael eu hargraffu, felly gall yr wybodaeth ynddynt fod yn anghywir neu’n hen. Os oes gennych broblem, bydd angen i chi gael mwy o wybodaeth neu gyngor personol i ganfod y ffordd orau o’i ddatrys. Gwelwch yr adrannau ‘Help pellach’ ym mhob taflen ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a chyngor.










